Local Contract with Wales 2022

Local Contract with Wales 2022
Cytundeb Lleol Gyda Chymru 2022

Our local communities are crying out for a can-do, common-sense approach, with more transparency and accountability in local government.

After a difficult two years, Welsh communities are emerging from the restrictions of the pandemic, into rapid change and uncertainty.
Rapid rises in the cost of fuel, increases in Council tax and inflation mean that many are now struggling to make ends meet.

There are clear challenges out there facing our communities. Propel proposes to deal with the issues of 2022 head on with our Local Contract with Wales 2022.

Mae ein cymunedau, fwy nag erioed angen arweiniad rhagweithiol yn seiliedig ar synnwyr cyffredin, gyda mwy o dryloywder ac atebolrwydd mewn llywodraeth leol.

Ar ôl dwy flynedd anodd, mae cymunedau Cymru yn symud allan o gyfyngiadau’r pandemig, ac yn wynebu newidiadau mawr a chyfnod o ansicrwydd.
Mae codiadau sylweddol yng nghostau tanwydd, cynnydd yn y Dreth Gyngor a chwyddiant yn golygu bod llawer bellach yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Mae heriau amlwg yn wynebu ein cymunedau. Mae ymateb yn uniongyrchol i’r sialensiau hynny wrth galon ein Cytundeb Lleol Gyda Chymru 2022.


General Council Management

  • Any Propel supported Council’s will carry out an independent root and branch review and restructure of the
    Council's management, without fear or favour. Savings made will be diverted to frontline services.
  • Propel pledges to rule out any real term increases in Council tax, without making cutbacks to essential services.

Rheolaeth Gyffredinol Cynghorau

  • Bydd unrhyw Gynghorau a gefnogir gan Propel yn cynnal adolygiad gwraidd a bôn annibynnol a chwbl ddiduedd i
    ailstrwythuro rheolaeth y Cynghorau hynny. Bydd yr arbedion a wneir yn cael eu dargyfeirio i wasanaethau rheng flaen.
  • Mae Propel yn addo diystyru unrhyw gynnydd mewn termau go iawn yn y Dreth Gyngor, heb wneud toriadau i wasanaethau hanfodol.

Council Financial Generation

As well as spending money, Councils should generate money.

Propel proposes:

  • Council owned child contact centers to generate valuable revenue as well as improved control of the service.
    Develop local government public/private partnerships to build whisky distilleries, providing jobs, income and revenue from exports. if possible corporate partners for this venture.
  • Develop local public / private partnerships to exploit Wales gas reserves without fracking.
    Wales currently imports gas from Norway, Europe, Qatar and Russia. Exploiting Wales’ methane resrves will cut bills, create jobs and cut Wales’ carbon footprint.

Cynghorau yn cynhyrchu incwm

Yn ogystal â gwario arian, dylai Cynghorau gynhyrchu arian:

Mae Propel yn cynnig:

  • Canolfannau cyswllt plant sy'n eiddo i'r Cyngor i gynhyrchu refeniw gwerthfawr yn ogystal â sicrhau gwell rheolaeth ar y gwasanaeth.
  • Datblygu partneriaethau cyhoeddus/preifat lleol i adeiladu distyllfeydd wisgi, gan greu swyddi, incwm a refeniw o allforion. Rhoi gwybod i bartneriaid corfforaethol posibl am y fenter hon.
  • Datblygu partneriaethau cyhoeddus/preifat lleol i fanteisio ar gronfeydd nwy Cymru heb ffracio. Ar hyn o bryd mae Cymru yn mewnforio nwy o Norwy,
    Ewrop, Qatar a Rwsia. Byddai manteisio ar gronfeydd methan wrth gefn Cymru yn gostwng biliau, yn creu swyddi ac yn lleihau ôl troed carbon Cymru.

Housing

Propel proposes to:

  • Build truly affordable Council housing, using capital from local government pension funds. This would be a safe investment, with pension funds gaining immediate, sustainable income, along with assets increasing in value.
  • Build new housing primarily on brown field sites, using empty retail and office space also.
  • Turn empty houses into viable homes, offering landlords loans to renovate, or, as a last resort, compulsory purchase.
  • Create arm's length private companies to build/purchase houses, with a view to enabling first time buyers to get on the property ladder.
  • Address the cladding scandal. Developers refusing to put properties right will be excluded from partnership with local authorities. A legal fighting fund will be set up by any Propel supported Council.
  • Housing first policy. Charities are not always the right partners to provide supported housing, Propel would re-orientate from charities to local authority providing small scale supported housing.
  • Work to preserve local, Welsh identity, by greatly increasing the cost of changing Welsh house names to non-Welsh names.
  • Promote equality for minority time resident parents in housing provision, so that parents who have care duties for children are not only able to apply for one bedroom accommodation, with Bedroom Tax adjustments.
  • Implement the Welsh Government’s 2012 Code of Guidance so that veterans will be prioritised in housing allocations schemes, and could also easily access support with any issues, such as PTSD, caused by their time in service.

Tai

Mae Propel yn cynnig:

  • Adeiladu tai Cyngor gwirioneddol fforddiadwy, gan ddefnyddio cyfalaf o gronfeydd pensiwn llywodraeth leol. Byddai hwn yn fuddsoddiad diogel, gyda chronfeydd pensiwn yn ennill incwm cynaliadwy ar unwaith, ynghyd ag asedau yn cynyddu mewn gwerth. Adeiladu tai newydd yn bennaf ar safleoedd tir llwyd, gan ddefnyddio gofod manwerthu a swyddfeydd gwag hefyd.
  • Troi tai gwag yn gartrefi hyfyw, gan gynnig benthyciadau i landlordiaid eu hadnewyddu, neu, fel dewis olaf, pryniant gorfodol.
  • Creu cwmnïau preifat hyd braich i adeiladu/prynu tai, gyda golwg ar alluogi pobl i brynu eu cartref cyntaf.
  • Mynd i'r afael â'r sgandal cladin. Bydd datblygwyr sy'n gwrthod ysgwyddo cyfrifoldeb yn cael eu heithrio o bartneriaeth ag awdurdodau lleol. Bydd cronfa ymladd gyfreithiol yn cael ei sefydlu gan unrhyw Gyngor a gefnogir gan Propel.
  • Polisi Tai yn Gyntaf. Nid elusennau bob amser yw’r partneriaid gorau i ddarparu tai â chymorth, byddai Propel yn ailgyfeirio cyllid o elusennau i awdurdod lleol ddarparu tai â chymorth ar raddfa fach.
  • Gweithio i gadw hunaniaeth leol, Gymreig, trwy gynyddu'n sylweddol y gost o newid enwau tai Cymraeg i enwau di-gymraeg.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer rhieni preswyl sydd â dyletswyddau gofal am lai o amser na'r prif riant preswyl, ac sy’n byw mewn darpariaeth tai, fel eu bod yn gallu gwneud cais am lety un ystafell wely, gydag addasiadau Treth Ystafell Wely.
  • Gweithredu Cod Canllawiau 2012 Llywodraeth Cymru fel bod cyn-filwyr yn cael eu blaenoriaethu mewn cynlluniau dyrannu tai, a hefyd yn gallu cael cymorth yn hawdd gydag unrhyw faterion, fel PTSD, a achoswyd o ganlyniad i’w hamser yn y fyddin.

Children’s and Adult Services

Families are currently being failed by Children’s and Adult services. Assistance frequently takes the form of draconian interventions in families, and life changing decisions are often made by inexperienced professionals, who sometimes lack understanding or empathy for the issues faced by the families they work with.

Propel proposes to:

  • Stop adoption for profit and create Keeping Families Together agencies, with an emphasis on providing holistic family support, to replace adoption agencies Create local Mentorship schemes, offer expanded parenting courses, home helps, and even supported housing, for parents who oppose adoption.
  • Create a Sponsorship scheme, to fastrack experienced professionals from other fields into social work, to give broader perspectives.
  • Launch a national review and forensic investigation into Children’s Services in Wales, beginning Council by Council Councils cover the cost of change in bedroom Tax status, when children are removed from parents.
  • Improve the mental and physical wellbeing of adult social care users, by creating activity venues.

Gwasanaethau Plant ac Oedolion

Mae gwasanaethau Plant ac Oedolion yn gwneud tro gwael â theuluoedd ar hyn o bryd. Mae cymorth yn aml ar ffurf ymyriadau llym, a gwneir penderfyniadau gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol, yn aml gan weithwyr proffesiynol dibrofiad, sydd weithiau'n brin o ddealltwriaeth neu empathi am y materion a wynebir gan y teuluoedd y maent yn gweithio gyda nhw.

Mae Propel yn cynnig:

  • Rhoi’r gorau i fabwysiadu er elw a chreu asiantaethau Cadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd, gyda phwyslais ar ddarparu cymorth cyfannol i deuluoedd, yn lle asiantaethau mabwysiadu.
  • Creu cynlluniau Mentora lleol, cynnig cyrsiau magu plant estynedig, cymorth yn y cartref, a hyd yn oed tai â chymorth, i rieni sy’n gwrthwynebu mabwysiadu.
  • Creu Cynllun Nawdd, i ganiátau gweithwyr proffesiynol profiadol o feysydd eraill i rannu eu harbenigedd gydag ymarferwyr gwaith cymdeithasol, er mwyn cynnig safbwyntiau ehangach. Lansio adolygiad cenedlaethol ac ymchwiliad fforensig i Wasanaethau Plant yng Nghymru ym mhob Cyngor Sir.
  • Cynghorau i dalu'r gost o newid statws y Dreth ystafell wely, pan fydd plant yn cael eu tynnu oddi wrth eu rhieni. Gwella lles meddyliol a chorfforol defnyddwyr gofal cymdeithasol i oedolion, trwy greu lleoliadau gweithgaredd.

Community
  • Green space is essential for the planet, for biodiversity, and plays a valuable role in mental wellbeing, for our communities.

Propel pledges to:

  • Protect areas of green in communities, and encourage the community’s use of local green spaces.
  • Make Wales a Bee Friendly country, county by county. Bees and pollinating insects are essential for growing crops, but they are threatened by climate change, disease, loss of habitat and the use of powerful insecticides by agriculture. This must change.
  • Commit to promoting road safety initiatives, especially in the vicinity of schools. A crossing person would be provided for every primary school, and additional road safety precautions would also be explored.
  • Commit to community asset transfers, where a clear benefit to the local community is the likely outcome.
  • Make the burial process more efficient, to comply with the requirements of non- Christian faiths.
  • Launch cashless home and community improvement hubs and co-op’s - to enable fair exchange of materials, skills and labour within our communities.

Cymuned

  • Mae mannau gwyrdd yn hanfodol ar gyfer y blaned, ar gyfer bioamrywiaeth, ac yn chwarae rhan werthfawr o ran lles meddwl ein cymunedau.

Mae Propel yn addo:

  • Gwarchod ardaloedd gwyrdd mewn cymunedau, ac annog defnydd y gymuned o fannau gwyrdd lleol.
  • Gwneud Cymru'n wlad sy'n Gyfeillgar i Wenyn, fesul sir. Mae gwenyn a phryfed peillio yn hanfodol ar gyfer tyfu cnydau, ond maent yn cael eu bygwth gan newid yn yr hinsawdd, afiechyd, colli cynefin a'r defnydd o bryfleiddiaid pwerus gan amaethyddiaeth. Rhaid i hyn newid.
  • Ymrwymo i hyrwyddo mentrau diogelwch ffyrdd, yn enwedig mewn ardaloedd cyfagos i ysgolion.
  • Byddai unigolion i oruchwylio croesfannau cerddwyr yn cael eu darparu ar gyfer pob ysgol gynradd, a byddai mesurau diogelwch ffyrdd ychwanegol yn cael eu harchwilio hefyd.
  • Ymrwymo i drosglwyddo asedau cymunedol, lle mae budd amlwg i'r gymuned leol.
  • Gwneud y broses gladdu yn fwy effeithlon, er mwyn cydymffurfio â gofynion crefyddau nad ydynt yn Gristnogion.
  • Lansio hybiau a chydweithfeydd gwella cartrefi a chymunedol heb arian - i hwyluso’r broses o gyfnewid deunyddiau, sgiliau a llafur yn ein cymunedau.

Environment and Planning

Propel proposes to:

  • Reclassify housing land to agricultural land to protect green fields.
  • Revoke unpopular local development plans.
  • Green infrastructure, by growing suitable plants on public infrastructure to assist with creating better biodiversity and cleaner air.
  • Double allotment provision in each local authority: Propel is committed to making Wales a food independent nation.

Amgylchedd a Chynllunio

Mae Propel yn cynnig:

  • Ailddosbarthu tir ar gyfer tai yn dir amaethyddol i ddiogelu caeau gwyrdd.
  • Diddymu cynlluniau datblygu lleol amhoblogaidd.
  • Seilwaith gwyrdd, trwy dyfu planhigion addas ar seilwaith cyhoeddus i gynorthwyo gyda chreu gwell bioamrywiaeth ac aer glanach.
  • Dyblu darpariaeth rhandiroedd ym mhob awdurdod lleol: Mae Propel wedi ymrwymo i wneud Cymru yn wlad gwbl hunangynhaliol o ran cynhyrchu bwyd.

Education

Propel proposes to:

  • Ensure supply staff are paid a fair wage.
  • Provide central resources for parents choosing to educate at home.
  • Reverse Labour’s privatisation of out of school tuition county by county.
  • Make schools centres of the community, to provide extra decentralised services such as community meals, youth centres and meeting spaces for third age people.
  • Introduce a voluntary subject teacher exchange programme between schools and colleges in different parts of Wales.
  • Publicise and invest in Welsh immersion to allow transfer into the Welsh-medium sector.
  • Respect cultural differences in diet in all educational establishments. At least one suitable food option for people observing a Halal, Kosher or vegetarian diet must be provided where there is demand.
  • Provide for Heritage Languages (Urdu, Bengali, Gujrati, Somali, Arabic) to be taught to a GCSE level in Secondary schools where there are significant number of children with mixed heritage and demand can be shown.
  • Incorporate the British Sign Language charter into the education system in Cardiff, and support all deaf children to achieve their full potential.

Addysg

Mae Propel yn cynnig:

  • Sicrhau bod staff cyflenwi yn cael cyflog teg.
  • Darparu adnoddau canolog i rieni sy'n dewis addysgu gartref.
  • Gwrthdroi camau Llafur i breifateiddio hyfforddiant / addysg y tu allan i oriau ysgol fesul sir.
  • Gwneud ysgolion yn ganolfannau cymunedol, i ddarparu gwasanaethau datganoledig ychwanegol megis prydau cymunedol, canolfannau ieuenctid a mannau cyfarfod i bobl trydedd oed.
  • Cyflwyno rhaglen gyfnewid athrawon pwnc gwirfoddol rhwng ysgolion a cholegau mewn gwahanol rannau o Gymru.
  • Hysbysebu a buddsoddi mewn addysg drochi Cymraeg er mwyn hwyluso'r broses o drosglwyddo i'r sector cyfrwng Cymraeg.
  • Parchu gwahaniaethau diwylliannol mewn diet ym mhob sefydliad addysgol. Rhaid darparu o leiaf un dewis bwyd addas ar gyfer pobl sy'n dilyn diet Halal, Kosher neu lysieuol lle bo galw.
  • Darparu ar gyfer dysgu Ieithoedd Treftadaeth (Wrdw, Bengali, Gujrati, Somalïaidd, Arabeg) i lefel TGAU mewn ysgolion Uwchradd lle mae nifer sylweddol o blant â threftadaeth gymysg a lle gellir dangos galw.
  • Ymgorffori siarter Iaith Arwyddion Prydain yn y system addysg yng Nghaerdydd, a chefnogi pob plentyn byddar i gyflawni ei lawn botensial.

Recovery After Covid

Propel proposes to:

  • Create food growing cooperatives for new local farmers’ markets.
  • Social Mobility Fund to sponsor the brightest students through A levels and beyond.
  • In kind currency for local councils to pay for voluntary action.
  • Decentralise recycling, creating not for profit community enterprises.
  • Regenerate town centres by ensuring long term empty properties are brought back to life. This would be done by negotiation or ultimately compulsory purchase.
  • A source locally policy county by county.
  • Negotiate schemes whereby major employers demonstrate corporate social responsibility by contributing positively to the community.
  • Seek Welsh Government legislation to give Councils the power to implement a hotel bed levy.
  • Attracting the top graduates from Welsh universities in a Council graduate scheme.
  • Free bus travel in Wales.
Strategaeth Adfer ar ôl Covid

Mae Propel yn cynnig:

  • Creu cydweithfeydd tyfu bwyd ar gyfer marchnadoedd ffermwyr lleol newydd.
  • Cronfa Symudedd Cymdeithasol i noddi'r myfyrwyr disgleiriaf sy’n astudio Safon Uwch a thu hwnt.
  • Cynllun cyfraniadau i gynghorau lleol dalu am weithredu gwirfoddol.
  • Datganoli ailgylchu, gan greu mentrau cymunedol dielw.
  • Adfywio canol ein trefi drwy sicrhau bod eiddo sy'n wag ers amser maith yn cael eu defnyddio unwaith eto. Byddai hyn yn cael ei wneud drwy negodi neu brynu gorfodol lle bo angen.
  • Polisi o brynu'n lleol fesul sir.
  • Cytuno ar gynlluniau lle mae cyflogwyr mawr yn dangos cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol trwy gyfrannu'n gadarnhaol at y gymuned.
  • Ceisio deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru i roi'r pŵer i Gynghorau weithredu ardoll gwely mewn gwestai.
  • Denu'r graddedigion gorau o brifysgolion Cymru trwy gynllun graddedigion wedi'i weinyddu gan Gynghorau.
  • Teithio am ddim ar fysiau yng Nghymru